Bwriad y blog yma yw codi ymwybyddiaeth a thynnu sylw i’r ffaith ein bod ni fel cwmni yn cynnig gwasanaeth Gymraeg i gleientiaid. Yn ogystal, fy nghyflwyno i fel rhywun sy’n gallu eich helpu chi gyda’ch materion teulu trwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi’n gyfreithwraig sy’n arbenigo mewn cyfraith teulu ac yn delio yn ddyddiol gyda materion yn amrywio o ysgariad, materion sy’n codi wedi i bartneriaid sydd heb briodi gwahanu, i fabwysiadu i drefniadau yn ymwneud a phlant.

Nid dim ond fi sy’n gallu cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae aelodau arall o’r cwmni yn medru’r Gymraeg gan gynnwys ein pargyfreithwraig, Esther Ifan ac mae eraill yn dysgu’r Gymraeg. Mae pennaeth ein hadran ewyllysai, Catrin Griffiths, fel fi, yn rhugl yn y Gymraeg ac felly’n medru cynghori yn y Gymraeg. Cewch gynnig o wasanaeth cyfrwng Cymraeg yn ein hadran deulu a hefyd yn ein hadran ewyllysai.

Rydym ni fel cwmni yn ymwybodol ac yn deall bod cleientiaid yn aml yn teimlo’n fwy cyfforddus ac yn fwy hyderus o fod yn gallu trafod eu materion personol, cyfreithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a derbyn y cyngor holl bwysig hynny yn eu mamiaith.

Mae’r llysoedd yn cynnig gwasanaeth Gymraeg ac yn medru cynnal gwrandawiadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gennym ni fel cwmni gysylltiadau cryf gyda bargyfreithwyr sy’n rhugl yn y Gymraeg ac rydym ni’n barod i’ch cynrychioli chi trwy’r Gymraeg os taw hynny yw eich dewis chi.

Felly, os ydych chi angen cyngor cyfreithiol arbenigol ond eisiau tîm sy’n gallu eich helpu chi a thrafod eich mater yn eich mamiaith, cysylltwch gyda ni.

Fay Jones – Cyfreithwraig

20/12/21